Fe fydd rheolau newydd i fynd i’r afael a gyrwyr sy’n gyrru dan ddylanwad cyffuriau yn dod i rym heddiw.

Fe fydd gyrwyr yn cael eu herlyn os ydyn nhw dros y terfynau cyfreithiol newydd, sydd wedi cael eu cyflwyno ar gyfer wyth cyffur anghyfreithlon ac wyth o feddyginiaethau presgripsiwn.

Bydd yr heddlu’n defnyddio profion newydd i brofi am gyffuriau fel heroin, cocen a chanabis ymhlith gyrwyr.

Mae lefelau newydd hefyd wedi cael eu gosod ar gyfer meddyginiaethau presgripsiwn gan gynnwys morphine a methadone. Ni fydd pobl sy’n defnyddio’r cyffuriau yma o fewn y lefel sy’n cael ei argymell yn cael eu cosbi.