Fe fydd meddygon teulu yng Nghymru yn cael mwy o amser i ofalu am y cleifion mwyaf bregus, o dan gynllun newydd.
Mae Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru (GPC Cymru) wedi cytuno ar y cytundeb dwy flynedd, yn y gobaith o “leihau biwrocratiaeth yn llwyth gwaith meddygon teulu.”
Bydd yn rhaid i’r meddygon teulu dreulio mwy o amser yn gofalu am y bobol â’r anghenion gofal mwyaf cymhleth, yn enwedig cleifion eiddil a hŷn, yn ôl y Llywodraeth.
Fe fydd y cytundeb newydd hefyd yn cryfhau trefniadau er mwyn darparu gwasanaethau lleol mwy effeithiol, yn ogystal â fframwaith i asesu a chefnogi cynaliadwyedd gwasanaethau meddyg teulu i gleifion mewn cymunedau gwledig a difreintiedig.
‘Biwrocratiaeth ddiangen’
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, fod y cynllun ar gyfer 2016-17 am gael gwared ar fwy o “fiwrocratiaeth ddiangen”:
“Mae’r cytundeb dwy flynedd gyda GPC Cymru yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â phryderon meddygon teulu ynghylch biwrocratiaeth ddiangen,” meddai.
“Mae hyn yn ymddiried ac yn dibynnu’n fwy ar broffesiynoldeb meddygon teulu i ddefnyddio eu crebwyll clinigol ac yn caniatáu iddynt dreulio mwy o amser yn gofalu am y bobl sydd â’r anghenion gofal mwyaf cymhleth, yn enwedig pobl eiddil a hŷn.”
Ychwanegodd Dr Charlotte Jones, cadeirydd GPC Cymru: “Bydd y cytundeb hwn yn gwneud pethau’n fwy sefydlog i feddygfeydd, gan wybod gan fwyaf beth fydd y llif ariannol o’r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol.”