Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth amheus dyn 42 oed mewn tafarn ym Mhontypridd ddydd Sadwrn.

Cafodd yr heddlu eu galw i dafarn y Morning Star yn ardal Graig ym Mhontypridd tua 7.30yh nos Sadwrn, 28 Chwefror.

Roedd y dyn fu farw yn byw’n lleol.

Mae dau ddyn lleol, 31 a 42 oed, wedi cael eu harestio ac yn cael eu holi yng ngorsaf yr heddlu ym Merthyr Tudful.