Mae torf o bobol mewn marchnad yn Nigeria wedi lladd merch ifanc oedd yn cael ei hamau o fod yn frawychwr.

Cafodd y ferch ei churo cyn i’w chorff gael ei losgi, meddai’r heddlu.

Cafodd merch arall sy’n cael ei hamau o fod yn frawychwr ei harestio yn y farchnad yn ninas Bauchi yng ngogledd-ddwyrain y wlad.

Mae’r fath ymosodiadau’n gyffredin yn Nigeria erbyn hyn oherwydd bod grŵp Boko Haram wedi tyfu’n sylweddol.

Dywedodd un o weithwyr y farchnad fod y merched wedi gwrthod cael eu harchwilio ger mynedfa’r farchnad, ac fe ymosododd y dorf arnyn nhw.

Ond mae’r heddlu wedi dweud nad oes sicrwydd bod y ferch yn frawychwr, a’i bod hi wedi dioddef ymosodiad “gan dorf grac”.