Fe fydd baner Jac yr Undeb yn cael ei gosod ar ffyrdd, pontydd a strwythurau eraill sydd wedi cael eu hariannu’n gyhoeddus yng ngwledydd Prydain, yn ôl cynlluniau newydd Llywodraeth Prydain.

Bydd y faner yn ymddangos ger arwyddion “Wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU”.

Bydd y cynlluniau yn cael eu cyhoeddi’n swyddogol yfory, ac mae disgwyl iddyn nhw gael ymateb cymysg.

Nod y cynllun, yn ôl Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander yw “cydnabod cyfraniad trethdalwyr y DU”.

Ond fe allai’r cynllun gael ei ystyried yn ymgais i gryfhau’r Undeb, yn dilyn refferendwm yr Alban a’r cytundeb datganoli a ddilynodd.

Gyda chynnydd sylweddol yn nifer aelodau’r SNP ers y refferendwm y llynedd, mae’r cynllun hefyd yn ymgais i ymateb i fygythiad y cenedlaetholwyr.

Dywedodd Danny Alexander: “Rwy wedi blaenoriaethu is-adeiledd yn y Llywodraeth hon gan mai buddsoddiadau hirdymor yn unig fydd yn cefnogi busnesau’r DU a chadarnhau cyllid cyhoeddus a’r economi.

Ychwanegodd y byddai Jac yr Undeb yn ymddangos “yn falch ar fuddsoddiadau is-adeiledd o heolydd yng Nghernyw i fand llydan yn Caithness”.

‘Gimic twp’

Wrth ymateb i’r cynlluniau, dywedodd dirprwy arweinydd yr SNP, Stewart Hosie eu bod nhw’n “gimic twp” mewn ymgais i guddio toriadau i is-adeiledd.

“Mae rhoi sticer ar brosiectau’n gimic twp gan Danny Alexander a’i benaethiaid Torïaidd sy’n methu cuddio’r ffaith fod ei lywodraeth yn San Steffan wedi torri’r gwariant ar is-adeiledd – gan ddifetha swyddi a chreu oedi wrth adfer yr economi – gan gynnwys torri cyllideb cyfalaf yr Alban o chwarter.”