Aelod Seneddol Meirionnydd Dwyfor, Elfyn Llwyd yw’r diweddaraf i leisio barn am gytundeb Llywodraeth Prydain i ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru.
Bellach, bydd gan Gymru’r grym i benderfynu ar brosiectau ynni mawr, ffracio a threfniadau etholiadau – gan gynnwys pleidleisiau i bobol ifanc 16 oed.
Wrth ymateb i honiadau bod llefarydd materion Cymreig Llafur, Owen Smith yn rhwystro’r ymdrechion i sicrhau rhagor o bwerau, dywedodd Elfyn Llwyd nad oes gan y Blaid Lafur awydd i ymestyn datganoli yng Nghymru.
Eisoes, roedd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi dweud bod y Blaid Lafur wedi ‘tanseilio’ Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones drwy gyfyngu ar delerau’r cytundeb a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos hon.
Mae’r Blaid Lafur wedi wfftio’r honiadau.
‘Protestio’n ormodol’
Mewn datganiad, dywedodd Aelod Seneddol Meirionnydd Dwyfor ac arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd: “Yn ystod y trafodaethau trawsbleidiol yn y misoedd diwethaf, mi ges i’r argraff nad oedd gan y Blaid Lafur yn Llundain yr awydd i gael rhagor o ddatganoli positif o rymoedd i Gymru.
“Gallai hynny fod yn groes neu beidio i’r hyn y mae’r Blaid Lafur ym Mae Caerdydd yn ei ddweud.
“Mae’n ddiddorol nodi ei bod hi’n ymddangos fel pe bai Owen Smith yn protestio’n ormodol – tybed beth sydd wedi achosi hyn.”