Mae disgwyl i gannoedd o bobol fynychu parêd arbennig i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yng Nghaerdydd heddiw.

Bydd y parêd yn gadael Neuadd y Ddinas am 12.30 ac yn gorffen ger y castell.

Fe fydd dawnswyr carnifal, cerddorion gwerin a nifer o grwpiau cymunedol yn cymryd rhan yn y digwyddiad.

Fe fydd y parti’n parhau y tu mewn i’r castell ar ddiwedd y parêd.

Ymhlith y digwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal yn y brifddinas heddiw mae cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant yng nghwmni Bryn Terfel, cyngerdd yng Nghanolfan y Mileniwm a llu o weithgareddau yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.