Mae nifer y Cristnogion sydd wedi cael eu herwgipio gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yng ngogledd ddwyrain Syria wedi codi i 220.

Mae’r brawychwyr wedi cymryd dwsinau yn rhagor o Gristnogion o 11 cymuned ger tref Tal Tamr yn Syria  yn y tridiau diwethaf, yn ôl grwpiau hawliau dynol

Dechreuodd IS gipio’r Cristnogion ddydd Llun pan wnaeth IS ymosod ar glwstwr o bentrefi ar hyd yr Afon Khabur, gan achosi i filoedd o bobl ffoi i ardaloedd mwy diogel.

Yr Afon Khabur, yn nhalaith Hassakeh sy’n ffinio â Thwrci ac Irac, yw maes y gad diweddaraf yn y frwydr yn erbyn IS yn Syria.

Ardal Cwrdeg yw hi’n bennaf ond mae hefyd poblogaethau o Arabiaid a Christnogion o Armenia’n byw yno hefyd.

Mae’n debyg fod y Cristnogion wedi eu cymryd o 33 o bentrefi gwahanol.