Jimmy Savile
Cafodd naw cwyn answyddogol eu gwneud am Jimmy Savile yn Ysbyty Stoke Mandeville ond ni chawson nhw eu cymryd o ddifrif na’u cyfeirio at uwch reolwyr, yn ôl adroddiad i achosion o gam-drin 60 o ddioddefwyr.
Cafodd cwyn swyddogol hefyd ei wneud am y cyn gyflwynydd teledu ond cafodd ei ollwng oherwydd iechyd gwael y dioddefwr, meddai’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.
Mae ail adroddiad, ynglŷn â sut yr oedd Savile wedi cam-drin cannoedd o bobl mewn 41 o ysbytai’r GIG ar draws y wlad hefyd wedi ei gyhoeddi.
Mae’n cyflwyno cyfres o argymhellion i sicrhau na fydd yn digwydd eto.
Mae canfyddiadau’r adroddiad hefyd yn codi cwestiynau am rôl y llywodraeth ar y pryd am “danseilio prosesau statudol neu lywodraethol” ar ôl i’r Adran Iechyd ei benodi yn gadeirydd ymddiriedolwyr ar gyfer apêl elusennol yn yr 80au.
Mae adroddiad Kate Lampard a gafodd ei phenodi gan yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt i oruchwylio’r ymchwiliadau hefyd yn dweud bod angen edrych ar drefniadau diogelwch mewn ysbytai’r GIG, a sut mae staff a rheolwyr yn delio gyda chwynion.
Mae tystiolaeth gan rhai o ddioddefwyr Savile yn Stoke Mandeville yn awgrymu bod nifer o staff yn ymwybodol o’i ymddygiad mor fuan â 1973. Mae’r dioddefwyr yn dweud bod yr achosion yn ymwneud a chyffwrdd a rhai achosion o drais.
Mae’n cynnwys plant mor ifanc ag wyth oed, ac oedolion.
Argymhellion
Yn sgil yr adroddiad, mae’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt wedi dweud na ddylai statws ac arian enwogion wneud i bobl anwybyddu arwyddion clir bod pobol ddiniwed yn cael eu cam-drin.
Wrth ymddiheuro ar ran Llywodraeth San Steffan i’r dioddefwyr gafodd eu cam-drin gan Savile, dywedodd wrth Aelodau Seneddol bod pobol wedi “cael eu dallu neu wedi’u dychryn gan statws” Savile i wneud cwyn amdano.
Dywedodd y byddai’n derbyn 13 o argymhellion a wnaed gan Kate Lampard ond na fyddai’n derbyn argymhelliad bod gwirfoddolwyr y GIG yn gorfod datgelu mwy o fanylion am gofnodion troseddol a threfniadau gwahardd fel rhan o’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).