Meredydd Evans
Bydd angladdau dau o fawrion y genedl yn cael eu cynnal heddiw.

Bydd angladd Meredydd Evans, fu farw ddydd Sadwrn, yn cael ei gynnal yng Nghwm Ystwyth. Roedd yn 95 oed ac wedi bod yn ffigwr cenedlaethol ers 70 o flynyddoedd.

Roedd yn ganwr ac arloeswr ym myd adloniant ysgafn ac yn, ei flynyddoedd ola’, yn arweinydd ysbrydol i ymgyrchwyr iaith.

Bu farw’r hanesydd a’r darlledwr Dr John Davies, neu John Bwlchllan, yn 76 oed yng Nghaerdydd wythnos diwethaf.  Ei waith enwocaf a phwysicaf oedd Hanes Cymru sy’n cael ei gydnabod fel y gwaith pwysicaf ar hanes y wlad.


Dr John Davies
Mae teulu John Davies wedi penderfynu gofyn am roddion er cof amdano, gan eu defnyddio i sefydlu cronfa i Fenter Caerdydd. Nod y gronfa yw cefnogi cynlluniau i greu canolfan Gymraeg newydd yng Nghaerdydd.