Yr ymosodiad ar ganolfan siopa Westgate yn Nairobi, Kenya yn 2013
Mae fideo, y credir sydd wedi ei rhyddhau gan y grŵp eithafol al-Shabab yn Somalia, sydd â chysylltiadau ag al Qaida, yn annog Mwslimiaid i ymosod ar ganolfannau siopa yn yr Unol Daleithiau, Canada, Prydain a gwledydd eraill yn y Gorllewin.
Dywed yr awdurdodau yn yr Unol Daleithiau nad oes unrhyw dystiolaeth “gredadwy” i awgrymu bod ymosodiad o’r fath ar droed yn yr UDA.
Mae’r grŵp hefyd yn rhybuddio Kenya am ragor o ymosodiadau tebyg i’r un ar ganolfan siopa’r Westgate Mall yn Nairobi ym mis Medi 2013 pan gafodd 67 o bobl eu lladd.
Yn y fideo, mae dyn yn gwisgo mwgwd yn annog Mwslimiaid i ymosod ar ganolfan siopa Westfield yn Stratford, Lloegr, Mall of America yn Bloomington, Minneapolis a’r West Edmonton Mall yng Nghanada.
Mae mesurau diogelwch ychwanegol mewn lle yn y Mall of America yn Bloomington ac mae’r FBI yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus.