Mae’r gyrrwr F1 o Sbaen, Fernando Alonso ar ddihun ac yn cyfathrebu â staff ysbyty yng Nghatalwnia yn dilyn damwain yn gynharach heddiw.

Tarodd Alonso, a symudodd o Ferrari ar ddiwedd y tymor diwethaf, yn erbyn wal ar drac Circuit de Catalunya yn Barcelona yn ystod diwrnod ola’r prawf cyn dechrau’r tymor.

Cafodd y Sbaenwr 33 oed ei gludo i gyfleusterau meddygol y trac mewn ambiwlans cyn cael ei drosglwyddo i’r ysbyty mewn hofrennydd.

Dywedodd llefarydd y bydden nhw’n rhoi datganiad am ei gyflwr yn ddiweddarach heddiw.