Mae Heddlu Scotland Yard wedi bod yn holi tri dyn o Brydain sy’n cael eu hamau o fod â rhan mewn achos o hiliaeth ar y Metro ym Mharis yr wythnos diwethaf.

Roedden nhw ymhlith criw o gefnogwyr tîm pêl-droed Chelsea oedd wedi teithio i Ffrainc ar gyfer eu gornest yn erbyn PSG yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Mae Heddlu Scotland Yard wedi rhyddhau lluniau o’r tri oedd ymhlith criw a wthiodd ddyn croenddu oddi ar y Metro ac a ganodd ganeuon hiliol nos Fawrth.

Cadarnhaodd Heddlu Llundain eu bod nhw’n trafod yr achos gydag awdurdodau Ffrainc, ond dydy’r un o’r tri ddim wedi cael ei arestio.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oes modd iddyn nhw arestio unrhyw un sy’n cael ei amau o gyflawni trosedd y tu allan i’r DU.

Mae pump o bobol wedi cael eu gwahardd dros dro rhag mynd i Stamford Bridge wrth i’r ymchwiliad i’r digwyddiad barhau.

Dywedodd y clwb eisoes y bydden nhw’n gwahardd am oes unrhyw un oedd yn rhan o’r digwyddiad.