Mae Ched Evans am ddychwelyd i’r byd pêl-droed o’r diwedd – gyda thîm yng Nghynghrair Wearside yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, yn ôl Wales Online.

Mae disgwyl i Evans ymuno â thîm Ashbrooke Belford House, sy’n chwarae yn y seithfed adran islaw’r lefel broffesiynol.

Cafodd Evans, 26, ei ryddhau o’r carchar y llynedd ar ôl treulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd dan glo am dreisio merch 19 oed mewn gwesty yn Y Rhyl yn 2012.

Mae’n parhau i fod ar drwydded.

Cafodd apêl gynharach yn erbyn ei ddyfarniad ei wrthod yn y Llys Apêl yn 2012.

Dywedodd rheolwr y tîm, Asa Dobbing wrth Wales Online fod y Cymro’n haeddu’r cyfle i ddychwelyd i’r byd pêl-droed.

“Mae’r safon yn dda ac mae gan y caeau eisteddleoedd a seddi.

“Mae’r chwaraewyr yn derbyn cyflog. Mae’n argyfwng arnon ni o ran anafiadau ac rydyn ni’n ceisio cyrraedd rownd derfynol cwpan.”

Mae Evans wedi ceisio ail-gydio yn ei yrfa ers cael ei ryddhau o’r carchar, ond er gwaethaf diddordeb gan Sheffield United ac Oldham Athletic, mae’r gwrthwynebiad gan y cyhoedd wedi atal ei ymdrechion.