Mae golwr Abertawe, Lukasz Fabianski wedi canmol yr Elyrch yn dilyn eu buddugoliaeth hanesyddol o 2-1 yn erbyn Man U yn Stadiwm Liberty brynhawn ddoe.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu mai dyma’r tro cyntaf i’r Elyrch guro Man U ddwywaith yn yr un tymor yn yr Uwch Gynghrair.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wrth i Ander Herrera sgorio’r gôl agoriadol ar ôl 28 munud, ond fe darodd yr Elyrch yn ôl gyda gôl ddwy funud yn ddiweddarach gan Ki Sung-Yeung.

Bafetimbi Gomis gipiodd y gôl fuddugol yn yr ail hanner, yn dilyn ergyd rymus gan Jonjo Shelvey o’r tu allan i’r cwrt cosbi a aeth oddi ar y Ffrancwr heibio i David de Gea.

Dywedodd Lukasz Fabianski wrth wefan yr Elyrch mai cryfder cymeriad ei dîm oedd yn gyfrifol am eu llwyddiant.

“Mae tipyn o gryfder cymeriad yn y tîm hwn.

“Roedd yn anodd pan aethon ni ar ei hôl i o 1-0 yn erbyn tîm fel United. Roedd ein hymateb ni’n bwysig iawn.

“Roedd yn gyflawniad anferth i Abertawe.

“Dw i’n credu y gallwn ni fod yn falch iawn o’r perfformiad.

“Mae’n bosib nad oedden ni wedi rheoli’r gêm yn llwyr, ond fe wnaethon ni sicrhau nad oedden nhw wedi cael llawer o gyfleoedd.

“Gwnaeth y tîm cyfan jobyn dda ohoni ac fe wnaethon ni ganolbwyntio, sy’n ein plesio ni. Rydyn ni’n hapus iawn.”