Fe fydd Justin Tipuric yn dechrau i’r Gweilch prynhawn dydd Sadwrn wrth iddyn nhw deithio i Glasgow gan obeithio taro nôl o siom y penwythnos diwethaf.
Tra bod Cymru wedi ennill yn y Chwe Gwlad yng Nghaeredin dydd Sul, colli wnaeth y Gweilch yn erbyn tîm prifddinas yr Alban nos Wener.
Fe fyddan nhw nawr yn ceisio taro nôl yn erbyn Glasgow, ac mae’r prif hyfforddwr Steve Tandy wedi gwneud wyth newid i’r tîm.
Ymysg yr olwyr mae Jonathan Spratt yn dod i mewn yn lle Ashley Beck yn y canol, gyda Dafydd Howells yn cymryd safle Richard Fussell ar yr asgell i ddechrau gêm yn y Pro12 am y tro cyntaf.
Mae’r rheng flaen a’r rheng ôl hefyd wedi eu newid yn gyfan gwbl gyda Ryan Bevington, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, James King, Justin Tipuric a Dan Baker i gyd yn dod mewn.
Bydd Bevington yn chwarae am y tro cyntaf ers dros flwyddyn ar ôl anaf hir dymor.
Ac mae’r prif hyfforddwr Steve Tandy yn gobeithio am berfformiad gwell yr wythnos hon.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n rhoi perfformiad llawer gwell ar ôl siom wythnos diwethaf yng Nghaeredin,” meddai Steve Tandy.
“Rydyn ni’n gwybod pa mor anodd fydd hi yn wynebu tîm Glasgow sydd wedi bod yn chwarae’n dda ac yn llawn hyder, felly mae’n rhaid i ni gamu lan yn sylweddol o’r gêm ddiwethaf.”
Tîm y Gweilch: Dan Evans, Tom Grabham, Jonathan Spratt, Josh Matavesi, Dafydd Howells, Sam Davies, Martin Roberts; Ryan Bevington, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Tevita Cavubati, Tyler Ardron (capt), James King, Justin Tipuric, Dan Baker
Eilyddion: Scott Otten, Marc Thomas, Dmitri Arhip, Rory Thornton, Joe Bearman, Ieuan Jones, Tom Habberfield, Hanno Dirksen