Mae o leiaf 48 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i fferi oedd yn cludo oddeutu 100 o bobol suddo yng nghanolbarth Bangladesh.
Dydy hi ddim yn glir eto faint o bobol sy’n dal ar goll ar ôl i’r fferi daro llong ar afon Padma, i’r gogledd-orllewin o’r brifddinas Dhaka.
Mae lle i gredu bod y fferi wedi suddo o leiaf chwe metr o dan y dŵr.
Mae 48 o gyrff wedi cael eu darganfod.
Afon Padma yw un o afonydd mwyaf Bangladesh.