Fe fydd cofeb i arweinydd mwyaf ysbrydoledig India, Mahatma Gandhi yn cael ei dadorchuddio yn Llundain fis nesaf.

Bydd y ddelw gan Philip Jackson yn cael ei gosod y tu allan i San Steffan, ac mae’n ddehongliad o lun o’r ymgyrchydd tros hawliau sifil ar risiau 10 Stryd Downing yn 1931.

Bydd y ddelw’n cael ei dadorchuddio ar Fawrth 14, gan mlynedd wedi i Gandhi ddychwelyd i India o Dde Affrica i arwain ei wlad ar y llwybr i annibyniaeth.

Dywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron: “Mae Mahatma Gandhi yn ysbrydoliaeth.

“Bydd ei ddulliau di-drais yn atseinio am byth fel gwaddol bositif – nid yn unig i’r DU ac India, ond i’r byd i gyd.”

Dywedodd yr Arglwydd Desai, cadeirydd Ymddiriedolaeth Cofeb Gandhi: “Mae’n wych y bydd yna gofeb i Gandhi yn Sgwâr y Senedd yn Llundain, sef un o’i hoff ddinasoedd.

“Fe oedd yr Indiad cyntaf a’r unig berson i gael ei anrhydeddu â delw yn y Sgwâr nad oedd yn ddeilydd swydd gyhoeddus.