Yr Arlywydd Petro Poroshenko
Mae’r Wcrain wedi tynnu’r mwyafrif o’i milwyr o dref Debaltseve lle bu brwydro ffyrnig gyda gwrthryfelwyr sy’n cael cefnogaeth Rwsia, yn ôl yr Arlywydd Petro Poroshenko.

Dridiau ar ôl i gadoediad ddod i rym yn y wlad, cyhoeddodd Petro Poroshenko ar ei dudalen trydar bod 80% o filwyr yr Wcrain wedi gadael a bod y gweddill yn paratoi i adael.

Mae brwydro wedi parhau yn Debaltseve, sy’n dref strategol bwysig yn nwyrain yr Wcrain, gydag adroddiadau bod y gwrthryfelwyr wedi meddiannu’r ardal.

Ond mae’r Arlywydd Poroshenko yn  gwadu bod milwyr yr Wcrain wedi cael eu hamgylchynu gan y gwrthryfelwyr.

Yn y cyfamser mae’r gwrthryfelwyr yn dweud eu bod nhw yn cadw cannoedd o filwyr yr Wcrain yn garcharorion.