Gwnaeth grŵp o gefnogwyr pêl-droed o Loegr atal dyn croenddu rhag teithio ar drên Metro ym Mharis neithiwr.

Roedd y grŵp o gefnogwyr Chelsea yn teithio i gae Parc des Princes ar gyfer y gêm rhwng Chelsea a Paris St Germain yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Wrth wthio’r dyn oddi ar y trên, bloeddiodd y cefnogwyr gyfres o sylwadau a chaneuon hiliol.

Mae Clwb Pêl-droed Chelsea wedi dweud eu bod nhw’n barod i gymryd camau yn erbyn unrhyw unigolion oedd yn rhan o’r digwyddiad.

“Mae’r fath ymddygiad yn ffiaidd ac nid oes lle iddo yn y byd pêl-droed nac yn y gymdeithas,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Byddwn yn cefnogi unrhyw gamau cyfreithiol yn erbyn y sawl oedd yn gyfrifol, a phe bai tystiolaeth yn dangos bod deiliaid tocynnau tymor neu aelodau Chelsea yn rhan o’r digwyddiad, bydd y clwb yn cymryd y camau cryfaf posib yn eu herbyn, gan gynnwys gwaharddiadau.”

Dywedodd llygad-dyst i’r digwyddiad ei fod yn “syfrdan” gan fod y dyn wedi cael ei wthio oddi ar y trên ddwywaith.

Ychwanegodd ei fod wedi clywed y cefnogwyr yn trafod “trywanu rhywun”.

Ymateb

Yn ôl UEFA, ni fyddan nhw’n gweithredu yn erbyn yr unigolion gan fod y digwyddiad y tu allan i’w rheolaeth a’u hawdurdod.

Mae’r ymgyrch yn erbyn hiliaeth yn y byd pêl-droed, Kick It Out, wedi galw am wahardd unrhyw unigolion oedd yn rhan o’r digwyddiad.

Dywedodd cadeirydd yr elusen, yr Arglwydd Ouseley: “Fe wyddwn fod rhagfarn ar gynnydd ac mae hynny ynddo’i hun yn arwain at agweddau o gasineb a’r math hwn o ymddygiad.

“Fe ges i sioc fod cefnogwyr Chelsea yn parhau i ymddwyn fel hyn.

“Roedd y ffaith ei fod yn ymosodiad hefyd ar yr unigolyn a gafodd ei wthio oddi ar y trên ganddyn nhw, hyd yn oed yn fwy o sioc.”

Heddlu

Mae Heddlu Scotland Yard wedi dweud eu bod nhw’n astudio fideo o’r digwyddiad er mwyn dod o hyd i’r unigolion oedd yn gyfrifol.

Cadarnhaodd llefarydd y byddai’r heddlu’n gwneud cais am orchymyn gwaharddiadau pe baen nhw’n dod o hyd i’r unigolion, a fyddai’n atal y sawl oedd yn gyfrifol rhag teithio i gemau yn y dyfodol.

Amddiffyn gweithredoedd

Mae un o’r cefnogwyr ar y trên wedi amddiffyn gweithredoedd y cefnogwyr, gan ddweud bod y trên yn orlawn.

Yn ôl Mitchell McCoy, a gafodd ei enwi ar Twitter fel un o’r rhai oedd wedi ymddwyn yn hiliol, roedd caneuon hiliol oedd yn cael eu canu yn ymwneud â ffrae rhwng eu capten John Terry ac Anton Ferdinand.

Cafodd Terry ei wahardd am bedair gêm yn 2012 am wneud sylwadau hiliol am Ferdinand.

Dywedodd McCoy, sy’n 17 oed: “Dydw i ddim yn y fideo ond roeddwn i yn y goets.

“Aethon ni ar y trên ac yn yr orsaf lle’r oedd yn dyn yn ceisio mynd ar y trên, fe wnaethon ni stopio am ychydig funudau.

“Fe wnaeth e drio mynd ar y trên ac roedd pobol yn ei wthio fe i ffwrdd gan nad oedd llawer o le yn y goets. Allech chi ddim symud.

“Roedd pobol yn dweud fod y cyfan am ei fod e’n groenddu. Dydy hynny ddim yn wir o gwbl. Yn bersonol, rwy’n credu mai oherwydd ei fod e’n gefnogwr PSG oedd e.

Wrth sôn am y canu hiliol, dywedodd McCoy: “Roedd y gân wedi’i chyfeirio at John Terry.”

Ychwanegodd fod y gân yn cael ei chanu drwy gydol y daith, ac nad oedd wedi’i hanelu at y dyn croenddu.

Wrth gyfeirio at waharddiad posib, ychwanegodd McCoy: “Maen nhw’n eich gwahardd chi am unrhyw beth. Fyddai hynny ddim yn fy synnu.”

Llywydd FIFA, Sepp Blatter yw’r diweddaraf i feirniadu’r digwyddiad, gan ddweud nad oes lle i hiliaeth yn y byd pêl-droed.

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Lloegr wedi dweud eu bod nhw’n cefnogi ymgais Chelsea i wahardd unrhyw unigolion oedd yn rhan o’r digwyddiad.