Mae blaenasgellwr Caerdydd, Rory Watts-Jones, wedi cael ei orfodi i ymddeol o rygbi proffesiynol am resymau meddygol.
Roedd y chwaraewr 26 mlwydd oed wedi gwneud 31 o ymddangosiadau i’r clwb.
Dioddefodd Watts-Jones anaf sy’n gysylltiedig â chyfergyd ym mis Tachwedd, a daw ei ymddeoliad yn sgil anafiadau pen i George North a Samson Lee ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd.
Meddai datganiad ar wefan Caerdydd fod staff meddygol wedi ei gynghori i ymddeol oherwydd mai “iechyd hirdymor” yw’r flaenoriaeth uchaf.
Meddai Rory Watts-Jones: “Ar ôl rhoi cymaint, mae cael fy ngyrfa wedi ei dorri’n fyr cyn i mi gyrraedd fy llawn botensial yn anodd.”