Mae’r chwaraewr snwcer Ronnie O’Sullivan wedi beirniadu lleoliad newydd Pencampwriaeth Agored Cymru yn y Motorpoint Arena yng Nghaerdydd gan ei gymharu â “sêl cist car”, “sied awyrennau” a “chanolfan siopa”.
O’Sullivan enillodd y bencampwriaeth y llynedd pan oedd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Casnewydd.
Ac er iddo orffen ei ddiwrnod cyntaf wedi curo dwy gêm ddoe, roedd yn ddeifiol am y lleoliad yn y Motorpoint Arena.
Meddai Ronnie O’Sullivan, sydd wedi ennill Pencampwriaeth y Byd bump o weithiau: “Dydw i ddim yn hoffi’r lleoliad newydd yma yng Nghaerdydd. Roeddwn i’n meddwl fod yr hen un yng Nghasnewydd yn un o’r lleoliadau gorau wnes i chwarae erioed.
“Dwi wedi chwarae yma o’r blaen ac yn gwybod pa fath o leoliad oedd o. Mae’n debyg i sied awyrennau. Dyw’r awyrgylch na’r acwsteg ddim gystal.
“Allwch chi ddim cymryd pethau’n rhy ddifrifol allan yna. Mae cymaint yn digwydd o’ch cwmpas, mae’n wirioneddol anodd canolbwyntio ar eich ergydion.”
Hefyd ar y diwrnod agoriadol, cafodd pencampwr 2005 Shaun Murphy ei daro allan wedi iddo golli’r ail rownd 4-3 yn erbyn y Cymro, Jamie Jones.
Llwyddodd y Cymro Matthew Stevens i gyrraedd y drydedd rownd hefyd wrth iddo drechu’r Gwyddel Ken Doherty 4-3.