Stadiwm y Mileniwm
Y sŵn sy’n cael ei gynhyrchu gan gefnogwyr rygbi yn Stadiwm y Mileniwm yw’r uchaf o’r holl leoliadau ble mae gemau’r Chwe Gwlad yn cael eu chwarae.
Dyna ganlyniad astudiaeth a gynhaliwyd gan Press Association ar y cyd â Pulsar Instruments wnaeth recordio lefelau desibel (dB) y lleoliadau hyd yn hyn yn y gystadleuaeth eleni.
Ar gyfartaledd dros gyfnod y gêm, roedd y sŵn gafodd ei gynhyrchu yn Stadiwm y Mileniwm pan oedd Cymru’n herio Lloegr yn dipyn uwch na’r gweddill gan gyrraedd 92.0dB. Ond y sŵn uchaf hyd yn hyn yn y bencampwriaeth oedd ar y chwiban olaf yn Nulyn, wrth i Iwerddon guro Ffrainc, pan recordiwyd 101.0dB.
Roedd Dulyn yn ail i Gaerdydd, yna Twickenham, Murrayfield, Rhufain a Pharis yn olaf.
Stadiwm Aviva yn Nulyn a Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd oedd yr unig lefydd wnaeth recordio synau dros 100dB ar eu mwyaf swnllyd.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Pulsar Instruments, Sarah Brack, fod y sŵn sy’n cael ei gynhyrchu mewn gemau rygbi o “ddiddordeb mawr” iddi.
Ond ychwanegodd ei bod hi wedi disgwyl i Twickenham fod yn uwch gan fod cymaint o gefnogwyr cartref yno.