Leinster 14–16 Dreigiau

Tra yr oedd Cymru wrthi’n curo’r Alban ym Murrayfield brynhawn Sul roedd Dreigiau Casnewydd Gwent yn brysur yn trechu Leinster ar yr RDS.

Roedd cais Pat Leach a chicio cywir Tom Prydie’n ddigon i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy i’r Cymry yn Nulyn.

Roedd yr ymwelwyr saith pwynt ar y blaen wedi deg munud yn dilyn cais Pat Leach a throsiad Prydie.

Caeodd Jimmy Gopperth y bwlch wedi hynny gyda dwy gic gosb ond roedd y Dreigiau bedwar pwynt ar y blaen ar yr egwyl yn dilyn tri phwynt o droed Prydie, er iddynt chwarae ugain munud gyda phedwar dyn ar ddeg.

Er i Gopperth lwyddo gyda chic gosb arall ar ddechrau’r ail hanner ac er i Dave Kearney groesi am gais i’r tîm cartref hefyd roedd dwy gic gosb arall gan Prydie’n ddigon i sicrhau buddugoliaeth fain i’r ymwelwyr o Gymru.

Mae’r canlyniad yn eu cadw’n ddegfed yn nhabl y Guinness Pro12.
.
Leinster
Cais:
Dave Kearney 66’
Ciciau Cosb: Jimmy Gopperth 16’, 30’, 53’
.
Dreigiau
Cais:
Pat Leach 10’
Trosiad: Tom Prydie 11’
Ciciau Cosb: Tom Prydie 38’, 62’, 69’
Cardiau Melyn: Nick Crosswell 1’, T. Rhys Thomas 24’