Yr Alban 23–26 Cymru
Cael a chael oedd hi i Gymru wrth iddynt drechu’r Alban ym Murrayfield brynhawn Sul, er iddynt reoli rhannau helaeth o’r gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Cymru a gafodd y gorau o’r tir a’r meddiant yn ystod y gêm ond roedd yr Alban yn edrych yn beryclach gyda’r bêl yn eu dwylo.
Roedd Leigh Halfpenny wedi cicio Cymru ar y blaen cyn i Stuart Hogg groesi am gais cyntaf y gêm. Dwynodd yr Alban y meddiant yn eu hanner eu hunain cyn i’r cefnwr redeg yr holl ffordd i dirio.
Llwyddodd Greig Laidlaw gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb i ymestyn y fantais i saith pwynt.
Caeodd Halfpenny’n bwlch i bwynt gyda dwy gic gosb arall, a gyda Finn Russell yn y gell gosb am chwarae peryglus fe groesodd Rhys Webb am gais cyntaf y Cymry. Bylchodd Liam Williams ar y chwith ac roedd Webb wrth law i sgorio, 10-16 y sgôr ar yr hanner.
Dechreuodd Cymru’r ail hanner gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn braidd yn hallt i Jonathan Davies ar ddiwedd yr hanner cyntaf ac fe gaeodd Laidlaw’r bwlch i dri phwynt gyda chic gosb arall.
Gyda’r ddau dîm yn ôl i bymtheg dyn yr un fe gyfnewidiodd Halfpenny a Laidlaw dri phwynt yr un, 16-19 y sgôr gyda chwarter y gêm i fynd.
Yna, gyda chwarter awr i fynd, fe dalodd pwysau Cymru o’r diwedd wrth i Davies ddawnsio trwy amddiffyn yr Alban braidd yn rhy hawdd i dirio o dan y pyst.
Gorffennodd yr Albanwyr y gêm yn gryfach ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi pan diriodd Jim Hamilton yn yr eiliadau olaf.
Mae Cymru’n bedwerydd yn y Bencampwriaeth yn dilyn y canlyniad.
.
Yr Alban
Ceisiau: Stuart Hogg 10’, Jim Hamilton 80’
Trosiadau: Greig Laidlaw 10’, Finn Russell 80’
Ciciau Cosb: Greig Laidlaw 18’, 45’, 55’
Cerdyn Melyn: Finn Russell 32’
.
Cymru
Ceisiau: Rhys Webb 34’, Jonathan Davies 65’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 34’, 65’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 7’, 21’, 32’, 50’
Cerdyn Melyn: Jonathan Davies 37’