Cerbyd arfog lluoedd yr Wcrain yn teithio tuag at Debaltseve
Mae gwrthryfelwyr sy’n cael cefnogaeth Rwsia yn parhau i frwydro ger rheilffordd strategol bwysig yn nhref Debaltseve, lle mae brwydro ffyrnig wedi bod gyda lluoedd llywodraeth yr Wcrain, meddai swyddogion.
Mae’r ymladd yn parhau yn y dref er gwaethaf cadoediad a ddaeth i rym ddydd Sul.
Dywedodd llefarydd ar ran lluoedd yr Wcrain bod y gwrthryfelwyr wedi tanio gynnau mawr yn Debaltseve dros nos.
Credir bod cannoedd o filwyr yr Wcrain yn gaeth yn y dref, gyda’r gwrthryfelwyr yn eu hamgylchynu.
Mae’r Wcrain wedi gwadu honiadau’r gwrthryfelwyr eu bod wedi meddiannu’r dref ond yn cydnabod bod y gwrthryfelwyr wedi cipio rhannau ohoni.
Fe fyddai’n fuddugoliaeth i’r gwrthryfelwyr petai nhw’n cipio Debaltseve, sy’n gyffordd allweddol rhwng y ddwy brif ddinas yn y dwyrain, Donetsk a Luhansk.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwrthryfelwyr, Eduard Basurin, bod cannoedd o filwyr yr Wcrain wedi ildio yn Debaltseve.