Ysgrifennydd Cartref, Theresa May
Fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn ymuno a Barack Obama mewn uwch gynhadledd yn Washington heddiw i drafod ffyrdd i fynd i’r afael ag eithafiaeth ryngwladol.

Roedd yr Arlywydd Obama wedi trefnu’r uwch gynhadledd yn sgil llofruddiaethau Charlie Hebdo ym Mharis.

Daw’r uwch gynhadledd ddyddiau’n unig ar ôl i ddau o bobl gael eu llofruddio gan ddyn sy’n cael ei amau o fod yn eithafwr Islamaidd ym mhrifddinas Denmarc, Copenhagen, a dienyddiad 21 o Gristnogion yr Aifft gan filwriaethwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Libya.

Bydd yr uwch gynhadledd hefyd yn trafod  y bygythiad gan ffynonellau eraill.