Purfa olew Murco yn Aberdaugleddau
Mae chwech o beirianwyr a gollodd eu swyddi pan gaeodd purfa olew Murco yn Aberdaugleddau y llynedd wedi sefydlu busnes newydd.

Mae’r cwmni newydd – InSite Technical Services – sydd wedi’i leoli yn Noc Penfro wedi cael ei sefydlu gan chwech o gyn weithwyr Murco sydd â dros 100 mlynedd o brofiad mewn peirianneg a rheoli prosiectau rhyngddynt.

Byddant yn gweithredu mewn tri maes – cynnig gwasanaethau dylunio a pheirianneg, gwasanaethau gweithredol ac ymgynghori technegol.

Mae’r cwmni hefyd am ddod o hyd i gyfleoedd newydd i’r gweithwyr medrus eraill a gollodd eu swyddi  yn y burfa olew.

‘Profiadol’

Collodd tua 400 o bobl eu gwaith pan gaeodd y burfa olew y llynedd. Meddai Llywodraeth Cymru fod 41% wedi dod o hyd i swyddi newydd hyd yn hyn.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr InSite Technical Services, Jean Martin: “Roedd cau’r burfa olew yn Aberdaugleddau yn ergyd ofnadwy i’r ardal, gyda chymaint o bobl yn gyflogedig yno a swyddi eraill yn rhan o’r gadwyn gyflenwi.

“Ond gyda chymaint o bobl fedrus, brofiadol a thalentog yn gweithio yn y burfa a nifer o gwmnïau’r diwydiant ynni yn Sir Benfro, gwelwyd cyfle i ddechrau rhywbeth newydd.”