Mae’r gwasanaethau brys yng Nghaerfyrddin wedi ail-ddechrau chwilio Afon Tywi y bore ma yn dilyn adroddiadau bod bachgen 11 oed ar goll.
Bu hofrennydd yr Awyrlu yn chwilio’r ardal yng Nghaerfyrddin ers 4 o’r gloch bnawn ddoe ar ôl adroddiadau bod bachgen wedi syrthio i’r afon.
Cafodd Gwasanaethau Tan Canolbarth Cymru, Heddlu Dyfed Powys a gwylwyr y glannau yn Aberdaugleddau eu galw i’r digwyddiad bnawn dydd Mawrth.
Daeth y chwilio i ben neithiwr ond mae wedi ail-ddechrau eto bore ma.
Dywed Heddlu Dyfed Powys bod swyddogion cyswllt teulu arbenigol yn rhoi cymorth i deulu’r bachgen.