Alexis Tsipras
Mae Prif Weinidog Gwlad Groeg Alexis Tsipras wedi dweud na fydd ei Lywodraeth yn cyfaddawdu ar drafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Yn hytrach, mae eisiau sicrhau “cytundeb onest sydd o fudd i bawb”.
Ddoe, methodd trafodaethau rhwng Gwlad Groeg a’r 19 o wledydd eraill ym mharth yr Ewro, ym Mrwsel. Mae Gwlad Groeg wedi bod yn ceisio ail-drafod telerau’r cymorth ariannol presennol.
Mae gwledydd parth yr ewro wedi rhoi tan ddydd Gwener i Wlad Groeg i ofyn am estyniad i’r rhan Ewropeaidd o’r cytundeb, sy’n dod i ben ar 28 Chwefror.
Ond mae Athen yn mynnu na all ofyn am ymestyn y cytundeb os yw’n ystyried ei fod yn anghywir ac yn annheg.