Roedd dyn o’r DU yn rhan o gynllwyn al Qaida i ymosod ar dargedau yn Lloegr, Efrog Newydd a Denmarc, yn ôl erlynydd yn yr Unol Daleithiau.
Dywedodd yr erlynydd Celia Cohen wrth y llys yn Ninas Efrog Newydd fod Abid Naseer wedi bod yn bennaeth ar gell brawychol ym Manceinion.
Mae’r diffynnydd o Bacistan hefyd wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio i ymosod ar y rheilffordd danddaearol Efrog Newydd yn 2009.
Meddai’r erlyniad y bydd yr achos yn cynnwys tystiolaeth a ddaethpwyd o hyd iddo pan laddwyd Osama bin Laden yn 2011.
Mae’r rheithgor hefyd yn clywed tystiolaeth gan swyddogion cudd-wybodaeth Prydain sydd wedi cael caniatâd i ymddangos yn y llys mewn cuddwisg.
Mae Abid Naseer wedi penderfynu amddiffyn ei hun. Os yw’n ei gael yn euog, bydd yn wynebu dedfryd posibl o oes yn y carchar.
Mae’n gwadu bod yn aelod o al Qaida ac yn dweud nad oes ganddo “ddaliadau jihadydd eithafol”.