Cyngor Sir Ddinbych
Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad gydag Esgobaeth Eglwys yng Nghymru ar y cynllun arfaethedig i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd ger Rhuthun.
Y cynnig gwreiddiol oedd cau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd ar 31 Awst 2014 a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Borthyn, Rhuthun ond fe gafodd y cynllun ei wrthod gan y Gweinidog Addysg Huw Lewis ychydig wythnosau yn ôl.

Dywedodd Huw Lewis AC bod gwendidau technegol o fewn adroddiad y cyngor ond y bore ‘ma fe wnaeth aelod cabinet addysg y cyngor wadu hyn wrth golwg360.

22 o ddisgyblion sydd yn yr ysgol Eglwys yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae ymgyrchwyr sydd am ei gweld yn aros ar  agor, sy’n cynnwys Esgob Llanelwy, yn dweud bod niferoedd y disgyblion yn codi.

Bydd swyddogion o Sir Ddinbych nawr yn cyfathrebu â Esgobaeth Eglwys yng Nghymru i ystyried dyfodol yr ysgol.