Mae’r cwmni dur Tata wedi cael dirwy o £200,000 ar ôl i dri o weithwyr ddioddef llosgiadau difrifol yn y gwaith dur ym Mhort Talbot.
Cafodd y cwmni ei erlyn gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) oedd yn credu nad oedd Tata wedi cymryd camau rhesymol i sicrhau diogelwch y gweithlu ar adeg y digwyddiad yn 2013.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod un gyrrwr dan hyfforddiant wedi bod yn gyrru craen dan oruchwyliaeth dau hyfforddwr pan gafodd tunelli o fetel poeth ei dywallt ar lawr gan achosi tân mawr.
Cafodd y tri dyn o Bort Talbot, Kelvin Watts, Peter Hill a John Bruton, eu llosgi wrth iddyn nhw geisio dianc.
Clywodd y llys nad oedd system gamera’r craen wedi bod yn gweithio ers peth amser.
Roedd Tata wedi pledio’n euog i gyhuddiad o dorri rheolau iechyd a diogelwch.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni ar ol yr achos eu bod wedi cymryd camau i fynd i’r afael a’r problemau er mwyn sicrhau na fydd digwyddiad o’r fath yn digwydd eto.