Mae heddlu yn Y Tyllgoed, Caerdydd yn ymchwilio i fyrgleriaeth ddigwyddodd mewn tŷ dyn oedrannus yn yr ardal.
Wedi i’r dyn ateb y drws tua 7:30yh ar ddydd Sul, 18 Ionawr, fe wnaeth dau ddyn wthio heibio iddo a chael mynediad i sawl ystafell yn y tŷ cyn gadael ar droed i gyfeiriad Ffordd Pwllmelin.
Mae’r cyntaf o’r ddau ddyn yn cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn 25-30 oed, yn chwe throedfedd a chwe modfedd o daldra ac yn eithaf cyhyrog. Roedd ganddo wallt melyn tywyll ac roedd yn gwisgo siaced dywyll.
Mae’r ail ddyn tua 30 oed, yn llai o faint ac roedd yn gwisgo top hwdi ar adeg y digwyddiad, yn ôl yr heddlu.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad pryderus iawn i’r dyn oedrannus er na chafodd unrhyw beth ei ddwyn,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Helen Taylor.
“Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â ni ar 101.”