Cerbyd arfog lluoedd yr Wcrain yn gyrru tuag at Debaltseve
Mae gwrthryfelwyr sy’n cael eu cefnogi gan Rwsia wedi dweud eu bod nhw wedi cipio rheilffordd allweddol yn nwyrain yr Wcráin.
Mae Asiantaeth Newyddion Donetsk wedi adrodd bod y gwrthryfelwyr wedi gwthio lluoedd llywodraeth yr Wcráin o ddinas Debaltseve a’u bod nawr yn rheoli rhannau helaeth o’r ddinas.
Dim ond deuddydd sydd ers i gadoediad gael ei gyhoeddi yn nwyrain yr Wcráin, ond mae’n ymddangos bod ymladd ffyrnig yn parhau.
Roedd disgwyl i luoedd yr Wcráin a’r gwrthryfelwyr symud eu harfau trwm o’r rhanbarth heddiw.
Yn ol adroddiadau mae gwrthryfelwyr Rwsia wedi dweud y byddan nhw’n dechrau symud eu harfau trwm o’r rhanbarth, ond nid yw hyn yn cynnwys yr arfau yn nhref Debaltseve lle mae’r brwydro ar ei waethaf.