Fydd y gwaith o adeiladu ffordd osgoi i Landeilo ddim yn dechrau tan 2025, ac yn ôl cynghorydd lleol mae hynny’n “siomedig iawn”.

Yn 2016 dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth, y byddai’r gwaith adeiladu yn dechrau yn 2019, ond ar ddechrau eleni cyhoeddodd y byddai’n dechrau yn 2022 ar y cynharaf.

Ar ddechrau’r wythnos hon daeth i’r amlwg – mewn gohebiaeth rhwng y gweinidog ac Adam Price, arweinydd Plaid Cymru – ei fod wedi ei ohirio unwaith eto i 2025.

Yn ôl Christoph Fischer, un o gynghorwyr y dref, mae pobol Llandeilo yn dechrau cwestiynu a fydd yr heol byth yn cael ei hadeiladu.

Pwrpas y ffordd osgoi fyddai i leddfu’r traffig ar Heol Rhosmaen – yng nghanol y dref – ac yn ôl y cynghorydd mae tagfeydd yn medru bod yn “wael iawn” yno.

“Mae lorïau yn aml yn gyrru trwyddo am ei fod yn brif ffordd i’r fath gerbydau,” meddai wrth golwg360. “Mae’n heol fach, ac mae rhai o’r bobol sy’n byw yno yn gorfod parcio yno.

“Ac unwaith mae bws yn stopio yno, mae traffig yn dod i stop.

“Hefyd mae lefel y llygredd yn ofnadwy,” meddai wedyn. “Ar ddiwrnodau prysur yn yr haf, rydych yn mygu ar y ffyrdd mae’n wael iawn. Mae llawer o fwg yn dod o’r lorïau.”

Mae’n cyfaddef bod nifer y ceir ar yr heol yn “sylweddol llai” ers dechrau’r cyfnod clo.

Ond mae’n dweud yr oedd “ciwiau hir iawn” rhai wythnosau yn ôl ar ôl llacio’r cyfyngiadau covid – ac yn rhannol oherwydd codwyd goleuadau traffig dros dro ar yr heol.

Camau tymor byr

Yn ei ohebiaeth i Adam Price, mae Ken Skates wedi cyflwyno cyfres o fesurau tymor byr i leddfu’r traffig ar Heol Rhosmaen, ond mae’r cynghorydd wedi cael “sioc” o weld y rhain.

Un o’r camau arfaethedig – i gael eu cyflwyno mewn llai na blwyddyn – yw rhwystro ceir rhag barcio ar bob ochr i’r heol, ac i ddarparu parcio mewn man arall.

Mae Christoph Fischer yn amheus ac yn cwestiynu lle yn union fyddai’r man parcio ychwanegol yma, ac mae “methu amgyffred” y posibiliad o rwystro parcio ar yr heol.

Mae’n nodi bod ei bartner yn anabl, a bod yntau’n ddibynnol ar barcio ar ochr Heol Rhosmaen er mwyn mynd i’r banc ac ati.

Beiciau trydanol

Cam arall sydd wedi ei gynnig – i’w gyflwyno o fewn llai na blwyddyn – yw gosod beiciau trydanol mewn mannau penodol yn Llandeilo a Ffairfach.

Mae’r cynghorydd yn dweud ei fod yntau’n seiclwr a’i fod yn “syniad neis”.

Ond mae “methu dychmygu” llawer yn manteisio arnyn nhw, ac yn dadlau bod yr ardal yn rhy fryniog “hyd yn oed â beiciau trydanol”.

Byddai’r rhain ddim yn cael “dylanwad mawr” ar bethau, meddai.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“I sicrhau ein bod yn darparu’r manteision gorau posibl, rydym yn dilyn prosesau gwerthuso manwl, yn ogystal â sicrhau bod adborth rhanddeiliaid a lleisiau pobl leol yn cael eu hystyried,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae hyn yng nghyd-destun y cyfyngiadau sydd yn eu lle yn sgil y coronafeirws sy’n effeithio ar ein ffordd i weithio.

“Rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin i wneud gwelliannau yn y tymor byr, canolig a hir. Rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i ddarparu’r cynllun fel rhan o ymdrech ehangach i wella trafnidiaeth yn yr ardal leol.”