Bydd gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei orfodi’n fwy llym gan yr Heddlu a Thrafnidiaeth Cymru o hyn allan.

Cafodd 500 o bobol eu hatal rhag teithio’r wythnos diwethaf am beidio gwisgo masg ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ers Gorffennaf 27.

Mae cwsmeriaid yn cael eu hannog i wisgo eu gorchudd wyneb cyn mynd i orsaf a bydd angen iddynt wneud hynny cyn mynd ar y trên.

‘Penderfyniad anodd’

“Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth”, meddai Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

Eglurodd Leyton Powell fod gweithwyr Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn annog teithwyr i ddilyn y rheolau.

“Ond nid yw pawb yn cydymffurfio ar ein gwasanaethau ym mhob ardal felly rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd er diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr a chynyddu ein gweithgareddau gorfodi.

“Mewn partneriaeth â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ni fydd y rheini sy’n gwrthod dilyn y rheolau yn cael teithio.

“Gallai hyn hefyd olygu bydd rhaid gofyn i rai teithwyr adael y trên mewn gorsafoedd cyn eu gorsaf nhw, ac mae’n bosibl iddyn nhw gael dirwy gan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.”

‘Sicrhau taith ddiogel’

“Mae swyddogion yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar batrôl ar draws y rhwydwaith a byddant yn parhau i weithio gyda staff Trafnidiaeth Cymru i helpu i sicrhau bod pob cwsmer yn cael taith ddiogel”, meddai Jon Cooze, Prif Arolygydd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yng Nghymru.

“Serch hynny rydyn ni’n barod i gosbi pobol pan na fydd pobol yn cydymffurfio.”

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi buddsoddi £150,000 ychwanegol er mwyn diogeli staff ac yn parhau i ofyn i gwsmeriaid i  gynllunio ymlaen llaw, cadw pellter cymdeithasol a pheidio â theithio os ydyn nhw’n teimlo’n sâl.