Mae cwest wedi clywed bod claf wedi’i gael yn farw mewn cawod yn Ysbyty Brenhinol Gwent ddau ddiwrnod ar ôl iddo fynd ar goll o’i ward ym mis Ebrill.
Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am Rory McLeod, 52, cyn iddo gael ei ddarganfod y tu mewn i giwbicl cawod dan glo yn yr ysbyty yng Nghasnewydd.
Heddiw (dydd Iau, Awst 20), daeth cwest i’r casgliad ei fod e wedi marw o gyfuniad o fraster ar ei iau a gorddos o heroin, ar ôl i’w gorff gael ei ganfod yn gorwedd ar ben nodwyddau.
Roedd wedi cael ei dderbyn i’r ysbyty ar Fawrth 31 ar ôl cael ffitiau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol ac yn yr wythnos cyn iddo fynd ar goll, roedd yna gyfarwyddyd i ffonio’r heddlu os oedd yn ceisio gadael y safle.
Ond clywodd Llys y Crwner yng Nghasnewydd, erbyn iddo fynd ar goll, nad oedd y gorchymyn bellach ar waith ar ôl iddo ymddangos fel pe bai’n dechrau gwella.
Dywedwyd wrth yr heddlu fod Mr McLeod wedi dianc o’r ward ar Ebrill 11 ac fe wnaethon nhw chwilio’r ysbyty tra bod ei deulu hefyd wedi chwilio mewn sawl lle arall yr oedd yn arfer mynd iddyn nhw.
Y diwrnod canlynol, roedd glanhawr yn y ciwbicl cawod yn meddwl bod un yn cael ei ddefnyddio pan nad oedd yn gallu agor y drws ac fe adroddodd am hyn y diwrnod canlynol pan nad oedd yn gallu agor y drws o hyd.
Torrodd staff y drws a chanfod corff noeth Mr McLeod, oedd hefyd wedi taro’i ben ac yn gorwedd ar nodwyddau.
Lluniau camerâu cylch-cyfyng
Dangosodd delweddau camerâu cylch-cyfyng ei fod e wedi gadael yr ysbyty ddwywaith yn ystod y bore ar Ebrill 11 – y tro cyntaf am 3.30yb gan ddychwelyd am 4.04yb, ac eto am 5.34yb a dychwelyd am 5.40yb.
Ond doedd hi ddim yn glir pam iddo fynd i mewn i’r cawodydd.
Dywedodd ditectif Sarjant Heddlu Gwent Emma Coopey mewn datganiad nad oedd “unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y farwolaeth yn amheus ac nid oedd unrhyw arwydd o aflonyddwch”.
Dywedwyd wrth y cwest bod ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi canfod na fyddai staff wedi gallu ei atal rhag gadael yr ysbyty gan fod ganddo gapasiti llawn ac nad oedd yn destun gorchymyn.
Ond pe bai gan giwbiclau’r gawod arwyddion i ddangos a oedden nhw’n cael eu defnyddio, gallai’r staff fod wedi sylwi bod un yn cael ei ddefnyddio’n barhaus a bydden nhw wedi gallu cael gwybod yn gynt.
Argymhellwyd y dylid arddangos arwyddion, yn ogystal â rhoi mwy o hyfforddiant ar gyfer Gorchmynion Colli Rhyddid, ar ôl i un gael ei ysgrifennu’n anghywir gan feddyg iau ar ran Mr McLeod ar ôl iddo fynd ar goll.
Casgliadau’r crwner
Dywedodd Crwner Cynorthwyol Gwent fod gan Mr McLeod “ddealltwriaeth glir” o’i salwch a pham ei fod yn yr ysbyty ar yr adeg yr aeth ar goll.
“Rwy’n derbyn y farn ar adeg ei ddiflaniad fod ganddo alluedd a mewnwelediad i unrhyw weithredoedd a gymerodd. Canfu’r ymchwiliad bod staff yn cymryd camau priodol,” meddai.
Cofnododd y crwner fod cyffuriau, afu brasterog ac afiechyd y galon i gyd wedi cyfrannu at ei farwolaeth.