Mae llywodraeth yr Wcráin a gwrthryfelwyr sy’n gefnogol i Rwsia wedi methu dechrau tynnu eu harfau trwm o ddwyrain y wlad wrth i’r dyddiad ar gyfer gwneud hynny fynd heibio.

O dan gytundeb gafodd ei arwyddo wythnos diwethaf, roedd y ddwy ochr wedi cytuno i ddechrau symud eu harfau trwm o’r rhanbarth heddiw. Ond roedd y ddwy ochr wedi awgrymu ddoe na fyddan nhw’n dechrau gwneud hynny tan ar ôl i’r ochr arall dynnu eu harfau nhw.

Yn ôl asiantaeth newyddion yn Rwsia, RIA Novosti, mae arweinydd y gwrthryfelwyr, Andrei Purgin, wedi dweud eu bod yn bwriadu trafod symud eu harfau gyda chynrychiolwyr o’r Wcrain, Rwsia a’r grŵp sy’n gyfrifol am fonitro’r cadoediad, y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop, yn ddiweddarach heddiw.