David Cameron
Bydd yn rhaid i bobl ifanc sydd wedi bod allan o waith, addysg, neu hyfforddiant am chwe mis orfod gwneud gwaith cymunedol di-dâl os ydyn nhw eisiau hawlio budd-daliadau, yn ôl cynlluniau’r Ceidwadwyr sydd wedi cael eu cyhoeddi gan David Cameron.

Fe fyddai’r cynigion yn golygu bod pobl ifanc rhwng 18 a 21 oed sydd wedi bod allan o waith, addysg, neu hyfforddiant am chwe mis (‘Neet’) yn gorfod gwneud gwaith cymunedol cyn eu bod nhw’n cael hawlio budd-daliadau.

Byddai’r cynllun yn golygu gwneud tua 30 awr o waith cymunedol bob wythnos, gan ddechrau o ddiwrnod cyntaf eu cais. Gallai gynnwys gwneud prydau bwyd i bobl oedrannus neu weithio i elusennau lleol yn ogystal â threulio 10 awr yn chwilio am swydd.