Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cael ei feirniadu am y modd bu’n delio gydag achosion yn ymwneud a phlant.

Roedd archwiliad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi (HMIC) wedi darganfod bod oedi hir wrth ymchwilio i achosion o ddiogelu plant gan Heddlu Dyfed Powys.

Dywed yr adroddiad hefyd bod plant yn cael eu cadw yn y ddalfa dros nos yn ddiangen a bod diffyg dealltwriaeth o raddfa’r broblem o ecsbloetio plant yn rhywiol.

Serch hynny, dywed yr adroddiad bod ymrwymiad clir i wella gwasanaethau diogelu plant.

Mae gan y llu hefyd staff ymroddedig sy’n gyfrifol am ymchwiliadau i achosion o gam-drin plant.

‘Lle i wella’

Dywedodd arolygydd HMIC, Dru Sharpling, bod “lle i wella mewn rhai materion pwysig”.

Mewn nifer o achosion, meddai, lle’r oedd plant wedi mynd ar goll o’u cartrefi nid oedd yr heddlu wedi ystyried y risg y gallai’r plant fod wedi cael eu hecsbloetio’n rhywiol.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed Powys Christopher Salmon: “Mae diogelu plant ac unigolion eraill sy’n agored i niwed yn flaenoriaeth i fi felly rwy’n croesawu’r adroddiad yma gan HMIC.

“Rwy’n ymwybodol o’r materion sydd wedi cael eu hamlygu gan HMIC; mae Prif Gwnstabl wedi fy sicrhau bod gwelliannau eisoes yn cael eu cyflwyno.

“Rwyf am weld gwelliannau pellach a bydd yn craffu ar ymateb yr heddlu i’r adroddiad yma.”