Benjamin Netanyahu
Mae Benjamin Netanyahu wedi galw ar Iddewon o Ewrop i ddychwelyd i Israel.
Daw sylwadau prif weinidog Israel yn dilyn ymosodiad ym mhrifddinas Denmarc, Copenhagen ddoe pan gafodd Iddew ei saethu’n farw ger synagog.
Dywedodd Netanyahu fod llywodraeth Israel yn barod i drafod cynllun gwerth £30 miliwn i sicrhau bod Iddewon yn dychwelyd adref o Ffrainc, Gwlad Belg a’r Wcráin.
Dywedodd Netanyahu wrth ei Gabinet: “Mae disgwyl i’r don o ymosodiadau barhau.
“Mae Iddewon yn haeddu diogelwch ym mhob gwlad, ond rydyn ni’n dweud wrth ein brodyr a’n chwiorydd Iddewig, ‘Israel yw eich cartref’.
Cafodd dyn diogelwch Iddewig 37 oed ei ladd tra’n gweithio y tu allan i synagog yn ystod gwasanaeth bat mitzvah yn Copenhagen.
Ond mae prif rabbi Denmarc, Jair Melchoir yn dweud ei fod yn “siomedig” ynghylch sylwadau Benjamin Netanyahu, gan fynnu nad yw “brawychiaeth yn rheswm dros symud i Israel”.