Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i ffrwydrad mewn tŷ yn Swydd Gaerloyw brynhawn ddoe.

Cafodd dyn 43 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi’r ffrwydrad gyda’r bwriad o beryglu bywyd ac o fwrgleriaeth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tŷ yn Coleford fore ddoe, a chafodd y dyn 43 oed ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol cyn cael llawdriniaeth.

Mae disgwyl i’r heddlu a’r gwasanaeth tân ddychwelyd i’r tŷ heddiw, ac mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.