Y Costa Concordia
Mae’r cyfreithwyr sy’n cynrychioli’r teithwyr a’r criw Prydeinig a gafodd eu dal yn nhrychineb y Costa Concordia yn bwriadu erlyn y cwmni llongau ar ôl i’r capten gael ei garcharu ddoe.

Cafodd Francesco Schettino, 54 oed, ei ddedfrydu i 16 mlynedd o garchar mewn llys  yn yr Eidal ddoe.

Bu farw 32 o bobl pan darodd y llong yn erbyn creigiau ger arfordir yr Eidal ar Ionawr 13 2012.

Cafwyd Schettino yn euog o ddynladdiad 32 o bobl, o achosi’r llongddrylliad drwy fynd a’r llong yn rhy agos at Ynys Giglio; a ffoi o’r llong,  er bod llawer o’r 4,200 o deithwyr yn dal ar ei bwrdd.

Cafwyd ymateb chwyrn i’r ddedfryd gyda’r dioddefwyr a oroesodd y trychineb wedi disgwyl dedfryd hirach.

Dywedodd un o’r teithwyr, Anne Decre o Ffrainc: “Trideg dau o bobl wedi marw. Mae hynny tua chwe mis am bob person fu farw.”