Mae’r gweithiwr banc a oedd wedi datgelu manylion am gyfrifon banc cwsmeriaid HSBC yn honni ei fod wedi cysylltu ag Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn 2008.
Dywed Herve Falciani mai dim ond “rhan fechan iawn” o’r wybodaeth sydd gan yr awdurdodau ynglŷn â’r cyfrifon banc yn y Swistir.
Roedd Falciani wedi dwyn y manylion banc pan oedd yn cael ei gyflogi fel gweithiwr TG yn 2007.
Dywedodd wrth Sky News ei fod wedi ffonio HMRC ddwy flynedd cyn i’r manylion gael eu trosglwyddo i’r awdurdodau yn Ffrainc yn 2010.
Daw ei sylwadau wrth i ffrae wleidyddol ynglŷn â’r helynt osgoi trethi ddwysau.