Gwrthryfelwr sy'n gefnogol i Rwsia yn yr Wcrain
Yn dilyn trafodaethau ym Melarws dros nos i geisio dod a diwedd i’r rhyfel yn yr Wcráin, mae adroddiadau’r bore ma bod yr arweinwyr yn barod i arwyddo cytundeb.

Mae arweinwyr Rwsia, yr Wcráin, Ffrainc a’r Almaen wedi bod yn gweithio drwy’r nos er mwyn dod i gytundeb ynglŷn â materion milwrol a gwleidyddol.

Mae mwy na 5,300 o bobl wedi cael eu lladd ers mis Ebrill y llynedd yn sgil y gwrthdaro rhwng lluoedd yr Wcráin a gwrthryfelwyr sy’n gefnogol i Rwsia. Mae’r ymladd wedi gwaethygu yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Er gwaetha’r trafodaethau, mae lluoedd y llywodraeth a gwrthryfelwyr yn dweud bod yr ymladd wedi parhau ar draws dwyrain yr Wcrain.

Mae Arlywydd America Barack Obama dan bwysau i anfon arfau i’r Wcrain, ond mae arweinwyr yn Ewrop yn ofni y byddai hynny’n gwneud y sefyllfa’n waeth.

Yn y cyfamser mae Rwsia yn wynebu trafferthion economaidd, yn bennaf oherwydd sancsiynau’r Gorllewin ar y wlad. Mae’r Gorllewin wedi cyhuddo Rwsia o gefnogi’r gwrthryfelwyr drwy roi milwyr ac arfau iddyn nhw ond mae Rwsia’n gwadu hynny.

Dywed swyddogion bod datblygiadau wedi bod yn y trafodaethau yn Minsk dros nos ond nid ydyn nhw wedi datgelu manylion hyd yn hyn.

Nid yw’n glir pryd fydd cyhoeddiad yn cael ei wneud a pha mor fuan fyddai’r ymladd yn dod i ben os oes cadoediad.