Mae miloedd o bobol wedi datgan cefnogaeth i gadw gofal mamolaeth ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd, wedi i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gyhoeddi ddoe y bydd y gwasanaeth yn cael ei dynnu yn ôl am oddeutu 18 mis, oherwydd problemau recriwtio.
Yn y cyfamser, fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford mewn ymateb i gwestiwn brys gan Antoinette Sandbach yn y Senedd heddiw ei fod yn gobeithio y bydd y gwasanaeth yn cael ei adfer yng Nglan Clwyd “cyn gynted â phosib”.
O ganlyniad i broblemau staffio, mae’r newidiadau yn golygu y bydd mamau sy’n cael trafferthion wrth roi genedigaeth yn cael eu trosglwyddo i naill ai Ysbyty Gwynedd ym Mangor neu Ysbyty Maelor Wrecsam.
Ar dudalennau cymdeithasol ar-lein, mae tua 12,000 o bobol yn gwrthwynebu’r newid gyda rhai yn dweud bod symud y gofal o Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan am “beryglu bywydau”.
Mae’r gwrthbleidiau hefyd wedi cefnogi’r ddeiseb gyda’r AC Ceidwadol Darren Millar yn dweud bod gohirio’r gwasanaethau mamolaeth ymgynghorol yn “erchyll”.
‘Diffyg parch’
Wrth siarad ar ôl codi’r mater yn y Siambr heddiw, dywedodd Aled Roberts, AC y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros Ogledd Cymru: “Mae’r ffaith y gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hyd yn oed ystyried cyflwyno papur o’r fath yn dangos parch diffyg llwyr at bobl y Gogledd.
“Ni fu unrhyw drafodaeth gyhoeddus a rhoddwyd prin 24 awr o rybudd i ACau am y penderfyniad pwysig hwn.
“Bellach mae cwestiynau difrifol i’w gofyn am y gwaith a gyflawnwyd gan y Bwrdd Iechyd o ran datblygu trefniadau ar gyfer y ganolfan newydd-anedig.
“O ystyried y feirniadaeth sydd yna eisoes am drefniadau llywodraethu y Bwrdd Iechyd, mae’n rhaid bellach i Lywodraeth Lafur Cymru ddwyn y Bwrdd Iechyd i gyfrif os yw’n methu â chyflawni ymrwymiad a wnaed gan y Prif Weinidog.
“Hefyd mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i ddangos nad yw’n camarwain pobl y Gogledd i gredu y caiff canolfan ranbarthol newydd-anedig ei hadeiladu.
“Digon hawdd i Lywodraeth Cymru geisio osgoi cyfrifoldeb am benderfyniadau fel hyn, ond mae pobl y Gogledd yn haeddu gwell.”