Bryn Parry Jones
Fe wnaeth Cyngor Sir Benfro dalu dros £2,300 y mis am rentu car Porsche i’r cyn-brif weithredwr Bryn Parry Jones.
Cafodd y ffigwr ei ddatgelu yn dilyn Cais Rhyddid Gwybodaeth gan y BBC wedi i Bryn Parry Jones adael ei swydd ym mis Hydref gyda phecyn diswyddo gwerth £330,000.
Fe adawodd ei swydd, gyda chyflog o £195,000 y flwyddyn, yn dilyn honiadau ei fod wedi derbyn taliadau anghyfreithlon yn ymwneud â’i bensiwn.
Y mis diwethaf, cyhoeddodd y cynghorydd Jacob Williams bod Cyngor Penfro wedi gorfod talu bron i £9,000 er mwyn dod a chytundeb llogi’r Porsche i ben.
Mae llefarydd ar ran y cyngor wedi cadarnhau bod y swm yn gywir.