Denis a Joyce Drew
Roedd dynes 21 oed sy’n cael ei chyhuddo o ladd dau bensiynwr drwy yrru’n beryglus yn ei dagrau yn Llys y Goron Casnewydd heddiw, wrth i ddillad y cwpl gael eu dangos i’r rheithgor.
Cafodd Denis a Joyce Drew, y ddau’n 86 oed, eu taro gan gar Taylor McDonnell wrth iddyn nhw gerdded ar Ffordd Caerllion ger Pontir ym mis Tachwedd 2013.
Mae’r erlyniad yn honni nad oedd Taylor McDonnell yn canolbwyntio wrth iddi yrru ei char ar y pryd ond mae hi’n mynnu bod Joyce Drew wedi cerdded i ganol y ffordd ac nad oedd modd iddi ei hosgoi.
Ddoe, clywodd y llys bod Taylor McDonnell, o Gaerwent yn Sir Fynwy, wedi bod ar ei ffôn am 18 munud yn ystod ei siwrne 20 munud, gan siarad gydag amryw o bobol.
Dangoswyd y got yr oedd Joyce Drew yn ei gwisgo ar adeg y ddamwain yn y llys heddiw, gan achosi i’r diffynnydd a theulu’r gŵr a gwraig oedrannus fod yn eu dagrau.
Tystiolaeth
Wrth roi tystiolaeth yn y gwrandawiad dywedodd un o’r tystion ar ran yr erlynydd, y Cwnstabl Heddlu Rhys Reynolds, y byddai hi wedi bod yn bosib i Taylor McDonnell weld Denis a Joyce Drew yn croesi’r ffordd gan osgoi’r ddamwain.
Ond fe ddywedodd y cyn blismon gyda Heddlu Avon a Gwlad yr Haf, y Rhingyll David Loat ar ran yr amddiffyniad, nad oedd modd i Taylor McDonnell osgoi’r ddamwain gan fod ei golwg wedi cael ei rwystro gan gar oedd yn teithio o’r cyfeiriad arall.
Mae’r achos yn parhau.