Mae diffoddwyr tân wedi gorfod symud pobol o bum siop yn Nhrecelyn, Caerffili wedi i dân mewn siop ledu i adeiladau cyfagos.
Cafodd y gwasanaeth brys eu galw am tua 12:30 y prynhawn yma, ac mae tua 35 o ddiffoddwyr tân wedi bod yn brwydro’r fflamau ar y safle yn y dref yng Nghaerffili.
Yn sgil y digwyddiad, lle credir bod tân gwyllt wedi ffrwydro, mae prif ffordd Trecelyn wedi’i chau.
Roedd criwiau tân o Aberbargod, Rhisga, Abertyleri a Chaerffili ar y safle.
Nid oes adroddiadau bod unrhyw un wedi’i hanafu.